Caffi Nini yw caffi cymunedol ddi-elw RSPCA Llys Nini.
Mae Caffi Nini a’i adnoddau cymunedol yn adeilad Newydd sbon sy’n cael i ariannu’n gyfan gwbl gan gymorth grant.
Caffi Nini yw Caffi cyntaf yr RSPCA sy’n darparu incwm i Ganolfan Anifeiliaid Llys Nini ond hefyd yn ganolbwynt cymunedol, yn darparu man cyfarfod cymunedeol a gweithgareddau i deuluoedd. Mae’r Caffi yn lle i gwrdd a phobl sydd am wneud ffrindiau newydd, efallai dim ond eisiau mynd allan am awr – gweld wyneb cyfeillgar a chael sgwrs.
Bydd y paneli solar o’r radd flaenaf yn golygu bod yr adeilad yn garbon isel ac yn gost isel i’w redeg ac felly bydd yn darparu canolbwynt cynnes yn y gaeaf a lle oerllyd yn y misoedd poethach.
Nodwedd arall o’r fenter yw cefnogi a hyrwyddo’r Iaith Gymaeg a hanes a threftadaeth Cymru. Mae Llys Nini yn safle hanesyddol, a byddwn yn gweitho gyda’r gymuned leol ac ysgolion i helpu pobl i ddeall hanes lleol a threftadaeth gyfoethog yr ardal yn well.
Mae POB paned yn helpu cath, mae pob toesen yn helpu ci, mae pob ffrape yn helpu ffuret a phob bara brith yn helpu cwningen.