Byddai’n amhosibl i Lys Nini weithredu mor effeithiol ag y mae heb ymroddiad ein gwirfoddolwyr gwerthfawr. Mae eu hangen arnom yn y ganolfan anifeiliaid, yn ein siopau elusennol ac yn ein digwyddiadau. Mae gan bobl lawer o sgiliau a all fod yn hynod ddefnyddiol i Lys Nini.
Os hoffech wneud cais i fod yn wirfoddolwr, cysylltwch â ni ynghylch un o’r swyddi a restrir isod. Gofynnwn am ymrwymiad rheolaidd gan wirfoddolwyr felly ystyriwch yn ofalus cyn gwneud cais am rôl. Gallwn dderbyn gwirfoddolwyr 18 oed neu’n hŷn yn unig.
Mae gwirfoddolwyr yn cael gostyngiad o 10% yn ein siop Nwyddau Anifeiliaid Anwes!
Ffurflen Gais ar gyfer Cynorthwy-ydd Casgliadau Fan
Mae Cangen Caerdydd i Abertawe yr RSPCA yn cynnwys y ganolfan anifeiliaid a deuddeg siop elusen. Er mwyn cadw cyflenwad da o stoc i symud drwy’r siopau ac i sicrhau bod ein holl anghenion logistaidd yn cael eu diwallu mae gennym dîm o yrwyr fan a chynorthwywyr.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn y rôl?
Casglu eitemau a roddwyd i’w gwerthu yn ein siopau elusen
Cyfnewid blychau casglu
Casglu rhoddion bwyd o archfarchnadoedd
Dosbarthu bagiau casglu i dai
Sylwer
Er mwyn ein galluogi i gynllunio’n logisteg yn effeithiol, mae’n ofynnol i wirfoddolwyr ymrwymo i shifftiau rheolaidd o un diwrnod llawn yr wythnos o leiaf.
Rhoddir hyfforddiant ym mhob agwedd berthnasol ar Iechyd a Diogelwch a Thrafod â Llaw (gan gynnwys trin anifeiliaid os oes angen)
Mae’r rôl hon yn cynnwys llawer o drafod â llaw a chodi. Rhaid i wirfoddolwr ar gyfer y rôl hon fod mewn iechyd corfforol da.
Does dim angen trwydded yrru ar gyfer y swydd hon oherwydd byddwch chi’n gweithio gyda gyrrwr.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Codi Arian
Sut gallwch ein helpu?
Er mwyn codi arian yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini a hyrwyddo lles anifeiliaid da, rydym yn trefnu, yn cynnal ac yn cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn y mae angen llawer o help a chefnogaeth arnom bob amser ar eu cyfer.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Byddem yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiad sydd ar ddod ac os ydych yn gallu helpu mewn unrhyw ffordd, ac yn awyddus i wneud hynny, byddem yn hynod ddiolchgar. Mae’r maes gwirfoddoli a gwmpesir gan y rôl hon yn eang ac yn amrywiol, a byddai’n hawdd i chi ddod o hyd i rôl addas a difyr.
Bydd gweithgareddau’n cynnwys:
Trefnu a chynnal stondinau ar ein diwrnodau agored, ein ffeiriau ac ambell waith mewn sioeau lleol.
Rhoi ychydig oriau i sefyll mewn uned fanwerthu gyda blwch casglu.
Efallai eich bod am greu rhywbeth i ni ei werthu a chodi arian ohono, nwyddau pob, eitemau wedi’u gwau neu greadigaethau celf a chrefft.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Ymwelwyr Cartref
Sut gallwch ein helpu?
Ein prif nod yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini yw dod o hyd i gartrefi cariadus newydd ar gyfer ein holl anifeiliaid sydd wedi’u hachub a’u hadsefydlu. Mae’r broses fabwysiadu’n cynnwys cyfres o gamau ac un o’r camau pwysicaf yw ymweld â’r cartref. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod y cartref newydd yn addas yn ogystal â bod yn gyfle i ddod i adnabod y mabwysiadwr a’i sefyllfa ychydig yn fwy.
Rydym yn ailgartrefu tua 600 o gathod a chŵn bob blwyddyn a thîm bach yn unig o ymwelwyr cartref rheolaidd sydd gennym.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Byddech chi’n ymweld â mabwysiadwyr yn eu cartref eu hunain i drafod eu haddasrwydd ar gyfer yr anifail anwes maent wedi’i ddewis.
Byddai gofyn i chi fynd ar gwrs hyfforddi ‘Ymweld â chartref’ cyn ymgymryd ag unrhyw ymweliadau cartref.
Byddai angen i chi fod yn gyfarwydd â pholisïau, canllawiau a gweithdrefnau ailgartrefu Llys Nini yr RSPCA a’u dilyn bob amser.
Byddai gofyn i chi gysylltu â darpar fabwysiadwr o fewn 48 awr ar ôl derbyn y cais am ymweliad cartref i sicrhau bod yr ymweliad wedi’i gwblhau o fewn 7 niwrnod.
Byddai angen i chi adrodd am ganfyddiadau’r ymweliad cartref yn brydlon.
Byddai gofyn i chi gwblhau’r holl ddogfennaeth yn daclus ac yn gywir a’i dychwelyd i’r ganolfan anifeiliaid cyn gynted â phosib ar ôl cwblhau’r ymweliad cartref.
Byddai angen i chi fod yn gyfarwydd â’r canllawiau ar gyfer diogelwch personol a’r canllawiau ailgartrefu a osodwyd gan y gangen, a’u dilyn bob amser.
Byddai gofyn i chi weithredu fel llysgennad da dros y gangen a’r Gymdeithas Genedlaethol bob amser, gan gefnogi ei pholisïau a’i nodau wrth i chi ymwneud â busnes yr RSPCA.
Os ydych chi’n defnyddio’ch cerbyd eich hun ar gyfer gwirfoddoli, byddai angen i chi wirio gyda’ch yswiriwr cerbyd i sicrhau bod y diben hwn wedi’i gynnwys.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Cynorthwy-ydd Siop Gwirfoddol
Sut gallwch ein helpu?
Gwirfoddolwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf yn aml pan fydd cwsmer yn dod i mewn i’r siop ac mae croeso cynnes yn bwysig iawn, ynghyd â darparu cymorth cwrtais a defnyddiol gan sicrhau bod y cwsmer yn cael profiad cadarnhaol.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Fel gwirfoddolwr, byddwch yn aelod amhrisiadwy o’r tîm wrth gefnogi rhedeg y siopau. Er enghraifft, gallech fod yn didoli nwyddau a roddwyd, yn stemio dillad, yn helpu i sicrhau bod gan y siop ddigon o stoc, yn cynorthwyo gydag arddangosfeydd siop neu’n helpu i gadw’r siop yn lân ac yn daclus. Byddwch yn cael cyfleoedd i helpu ar lawr y siop – yn gwasanaethu cwsmeriaid, yn gweithredu’r til ac yn trafod arian parod. Beth bynnag fo’ch dawn – fe ddown o hyd i ddefnydd ar ei chyfer!
Rydym yn croesawu unrhyw un a all wneud cyfraniad cadarnhaol i’n helusen – mae’r holl arian rydych chi’n ein helpu ni i godi yn mynd i’r elusen i helpu anifeiliaid yn ardaloedd Caerdydd i Abertawe. Gallwn helpu i roi profiad i rywun sy’n chwilio am yrfa yn y busnes manwerthu; gallwn eich helpu i fagu’ch hyder neu’ch sgiliau cymdeithasol i ddychwelyd i waith amser llawn; gallwn ddarparu ffordd o fod yn gymdeithasol a chyfle i wneud ffrindiau. Gallwch fod yn rhan o sefydliad gwych gan roi o’ch amser ar gyfer achos mor dda.
Rydym yn croesawu pawb a hoffai wirfoddoli – darperir hyfforddiant llawn. Gofynnwn am ymrwymiad rheolaidd yn gyfnewid.
Ad-delir treuliau parod rhesymol gyda chymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Rheolwr.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr ym mhob un o’n siopau – Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, y Mwmbwls, Gorseinon, Caerfyrddin, Llanelli, Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Albany Road Caerdydd, Wellfield Road Caerdydd.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Garddio
Sut gallwch ein helpu?
Mae gennym safle mawr yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini gyda thros 42 o gytiau cŵn, dros 40 o gytiau cathod ac amryw adeiladau eraill. Mae gennym ardal werdd eang y mae angen llawer o ofal a gwaith cynnal arni hefyd.
Mae ein staff cynnal a chadw presennol yn gweithio’n ddiflino i gadw’r ganolfan yn lân, yn daclus ac yn gweithio’n effeithiol ond gan ei bod yn dasg mor enfawr, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n barod i’n helpu i gadw’n canolfan mewn cyflwr da.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Cynorthwyo gyda chynnal y gwelyau, y borderi a’r gerddi o gwmpas y ganolfan. Mae’r rôl hon ar gyfer gweithio o gwmpas y dderbynfa a’r blociau anifeiliaid, yn hytrach na’r safle 78 erw ehangach.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
Cynorthwyo gyda chynnal ardaloedd sydd wedi’u plannu yn y ganolfan trwy blannu, chwynnu, torri a rhacanu gwair, tocio a gwaith garddio ysgafn arall, yn unol â chyfarwyddyd y rheolwr neu aelodau eraill o staff.
Cynorthwyo gydag unrhyw brosiectau plannu newydd, a chynnal rhai parhaus (e.e. gardd fwytadwy ein cwningod)
Paratoi gerddi cyn unrhyw ddiwrnodau agored neu ddigwyddiadau a allai arwain at fwy o aelodau’r cyhoedd ar y safle.
Dilyn yr holl reolau a chanllawiau iechyd a diogelwch, a sicrhau yr adroddir am unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau ar unwaith, gan ddefnyddio’r weithdrefn a nodwyd gan y ganolfan.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n barod i’n helpu o leiaf dair awr yr wythnos ar ddydd Mercher yn ddelfrydol.
Rhoddir hyfforddiant iechyd a diogelwch ynghyd â hyfforddiant llawn ar unrhyw gyfarpar angenrheidiol.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Cynnal Tiroedd
Sut gallwch ein helpu?
Mae gennym safle mawr yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini gyda thros 42 o gytiau cŵn, dros 40 o gytiau cathod ac amryw adeiladau eraill. Mae gennym ardal werdd eang y mae angen llawer o ofal a gwaith cynnal arni hefyd.
Mae ein staff cynnal a chadw presennol yn gweithio’n ddiflino i gadw’r ganolfan yn lân, yn daclus ac yn gweithio’n effeithiol ond gan ei bod yn dasg mor enfawr, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n barod i’n helpu i gadw’n canolfan mewn cyflwr da.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Cynorthwyo gyda chynnal tiroedd sydd ynghlwm wrth y safle, sy’n cynnwys tua 78 erw gan gynnwys glaswelltiroedd, coetiroedd a gwlyptiroedd.
Bydd rhai gweithgareddau yn isadeileddol, fel gosod/cynnal llwybrau, ysgubo dail, torri gwair ac o bryd i’w gilydd godi adeileddau fel pontydd, ffensys, gatiau a llwybrau estyll.
Bydd rhai gweithgareddau’n amgylcheddol eu natur, fel plannu coed, prysgoedio, clirio prysgwydd, cynnal gwrychoedd, ynghyd â gweithgareddau eraill.
Bydd rhai gweithgareddau’n cynnwys rhedeg y safle, fel gwagio biniau baw cŵn.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n barod i’n helpu bedair awr yr wythnos o leiaf rhwng dydd Llun a dydd Gwener
Rhoddir hyfforddiant iechyd a diogelwch ynghyd â hyfforddiant llawn ar unrhyw gyfarpar angenrheidiol.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Maethwr Cŵn/Cŵn Bach Gwirfoddol
Yn achlysurol bydd angen cartrefi maeth arnom ar gyfer:
- Cŵn benywaidd beichiog sy’n disgwyl cŵn bach.
- Cŵn benywaidd sy’n llaetha gyda chŵn bach.
- Ci bach (hyd at 6 mis oed)
- Cŵn Bach Amddifad (rhwng 0 ac 8 wythnos oed)
Sut gallwch ein helpu?
Mae gennym safle mawr yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini gyda thros 42 o gytiau cŵn, dros 40 o gytiau cathod ac amryw adeiladau eraill. Mae gennym ardal werdd eang y mae angen llawer o ofal a gwaith cynnal arni hefyd.
Mae ein staff cynnal a chadw presennol yn gweithio’n ddiflino i gadw’r ganolfan yn lân, yn daclus ac yn gweithio’n effeithiol ond gan ei bod yn dasg mor enfawr, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n barod i’n helpu i gadw’n canolfan mewn cyflwr da.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Darparu gofal a thai addas i gŵn mewn amgylchedd diogel pan fyddant mewn gofal maeth yn unol â pholisïau a chanllawiau’r Gymdeithas.
Bwydo, rhoi dŵr, ymarfer corff a thrin cŵn fel sy’n briodol.
Darparu gwely addas (gellir ei ddarparu i chi os gofynnir amdano).
Mynd ag anifail maeth i weld ein milfeddyg lleol ac i Lys Nini ar gyfer gwiriadau iechyd rheolaidd hefyd.
Y sgiliau y mae eu hangen arnoch
Rhaid i wirfoddolwyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Byddai profiad blaenorol o faethu’n fuddiol ac mae profiad o ofalu am gŵn yn hanfodol.
Bydd angen gardd ddiogel arnoch a digon o amser i’w dreulio gyda’r cŵn.
Mae’n rhaid i’ch teulu fod yn gwbl gefnogol.
Os oes gennych anifeiliaid sy’n byw yn y cartref eisoes mae’n rhaid eu bod wedi’u hysbaddu oni bai fod rhesymau meddygol pam na allant fod.
Byddai angen i ofalwr maeth fyw’n eithaf lleol i’r gangen sydd ym Mhenllergaer, Abertawe SA4 9WB.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Cynorthwy-ydd Cytiau Gwirfoddol
Sut gallwch ein helpu?
Mae gennym dîm o dri i bedwar aelod o staff cytiau sy’n gweithio bob dydd ar dri bloc gwahanol. Mae gennym hyd at 57 o gŵn ar unrhyw adeg ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu holl anghenion yn cael eu diwallu, yn gorfforol ac yn ymddygiadol. Ein nod hefyd yw gwneud yr anifeiliaid mor hapus a chynhyrchiol â phosib yn ystod eu hamser gyda ni.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Mae helpu’n tîm cytiau’n golygu bod yr holl dasgau hanfodol yn cael eu cwblhau’n gynt sy’n golygu y gellir treulio amser ychwanegol gyda’r anifeiliaid. Mae ein staff cytiau’n gwneud amrywiaeth o ymarferion ac yn dilyn cynlluniau cyfoethogi gyda’r cŵn i’w helpu i ddatblygu, ennill sgiliau newydd a dechrau datrys unrhyw broblemau sydd ganddynt cyn iddynt fynd i gartref newydd. Trwy wirfoddoli yn y cytiau, bydd eich amser a’ch egni o fudd uniongyrchol i’n preswylwyr, byddwch yn ein helpu i’w cadw’n hapus ac yn fodlon wrth iddynt chwilio am gartrefi newydd.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd am wneud yr holl dasgau y mae hangen eu gwneud. Rydym wedi darganfod bod hyn yn fwy gwerth chweil oherwydd byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â’r staff cytiau gan wneud yr holl dasgau maen nhw’n eu gwneud ac yn cymryd mwy o ran. Gan y byddwch chi’n gweithio’n agosach gyda’r tîm, mae llawer mwy o gyfle i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
• Glanhau cytiau’n ddyddiol, mopio, golchi gyda phibell ddŵr a sicrhau bod yr holl ddillad gwely’n lân, gan gynnal cytiau glân trwy gydol y dydd
• Mynd â’r cŵn am dro a chymdeithasu â nhw (15 munud o leiaf) trwy goetiroedd a chaeau
• Dilyn cynlluniau dietegol i baratoi amrywiaeth o fwyd cŵn
• Didoli a glanhau dillad gwely yn yr ystafell golchi dillad trwy gydol y dydd
• Adnabod a rheoli ystod o ymddygiadau cŵn, gan helpu gyda chynlluniau hyfforddi
Gofynion Gwirfoddolwyr
• Hyder a thosturi tuag at amrywiaeth o gŵn
• Y gallu corfforol i gerdded ar dir sy’n anwastad ac yn berchen ar ddillad/esgidiau ar gyfer pob tywydd
• Y gallu i weithio’n annibynnol
• Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
• Ymrwymiad i fod yn bresennol ar ddiwrnodau a nodwyd gan ddechrau am 9am
• Mae angen esgidiau cerdded/esgidiau glaw da oherwydd mae’r tir yn gallu bod yn eithaf mwdlyd
Sut gallaf gymryd rhan?
Gan fod y gangen yn gorfod talu am sefydlu a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd, rydym yn annog unrhyw un sy’n ystyried gwaith gwirfoddol i ystyried yn ofalus cyn gwneud cais. Cyn cyflwyno cais, mae angen i chi ystyried y canlynol:
Oes gen i symudedd da?
Ydw i’n gallu plygu, ymestyn a cherdded llawer heb anhawster?
Ydw i’n berson hyderus a rhadlon ond eto’n ddigynnwrf?
Oes gen i sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol?
Ydw i’n hapus i roi cynnig ar ddysgu am hyfforddi ac ymddygiad cŵn a dysgu’r sgiliau sy’n ofynnol i weithio gyda’r cŵn?
Ydw i’n berson craff, cwrtais ac amyneddgar ac ydw i’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm?
Os mai “nac ydw” yw’r ateb i unrhyw un o’r uchod, efallai nad hon yw’r rôl i chi.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Cynorthwy-ydd Anifeiliaid Bach Gwirfoddol
Sut gallwch ein helpu?
Mae helpu’n tîm anifeiliaid bach yn golygu bod yr holl dasgau hanfodol yn cael eu cwblhau’n gynt sy’n golygu y gellir treulio amser ychwanegol gyda’r anifeiliaid. Trwy wirfoddoli ar yr anifeiliaid bach, bydd eich amser a’ch egni o fudd uniongyrchol i’n preswylwyr, byddwch yn ein helpu i’w cadw’n hapus ac yn fodlon ac yn eu hysgogi’n gorfforol ac yn feddyliol wrth iddynt chwilio am gartrefi newydd.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Cynorthwyo staff i lanhau cytiau cwningod a chytiau ffuredau’n ddyddiol gan gynnwys blychau baw.
Dilyn cynlluniau dietegol i baratoi amrywiaeth o fwyd wedi’i bwyso drwy gydol y dydd.
Didoli a glanhau dillad gwely.
Cymdeithasu â chwningod a ffuredau wrth adnabod ymddygiadau y mae angen eu monitro.
Sicrhau bod y cyfarpar amddiffyn personol cywir yn cael ei ddefnyddio bob amser.
Gofynion Gwirfoddolwyr
Hyder a thosturi tuag at yr anifeiliaid
Safonau hylendid da yng nghartrefi’r anifeiliaid
Y gallu i gwblhau tasgau gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
Ymrwymiad i fod yn bresennol ar ddiwrnodau ac amseroedd a nodwyd gan ddechrau am 9am tan 1pm o leiaf
Sut gallaf gymryd rhan?
Gan fod y Gangen yn gorfod talu am sefydlu a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd, rydym yn annog unrhyw un sy’n ystyried gwaith gwirfoddol i ystyried yn ofalus cyn gwneud cais. Cyn cyflwyno cais, mae angen i chi ystyried y canlynol:
Alla’ i ymdopi â llawer o blygu, ymestyn a cherdded heb anhawster?
Ydw i’n berson hyderus a rhadlon ond eto’n ddigynnwrf?
Oes gen i sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol?
Ydw i’n hapus i roi cynnig ar ddysgu am ymddygiad cwningod a ffuredau a dysgu’r sgiliau sy’n ofynnol i weithio gyda’r anifeiliaid bach?
Ydw i’n berson craff, cwrtais, ac amyneddgar ac ydw i’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm?
Os mai “nac ydw” yw’r ateb i unrhyw un o’r uchod, efallai nad hon yw’r rôl i chi.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Derbynnydd Gwirfoddol
Sut gallwch ein helpu?
Er mwyn sicrhau bod derbynfa Canolfan Anifeiliaid Llys Nini yn gweithredu’n llyfn, mae gwirfoddolwyr yn rhan amhrisiadwy o’n tîm trwy helpu i gynorthwyo staff ein derbynfa.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Fel y mae’r teitl yn ei awgrymu prif swyddogaeth staff ein derbynfa yw “derbyn” cwsmeriaid. Gall hyn gynnwys pobl sy’n ymweld â’r Ganolfan yn ogystal â phobl yn cysylltu dros y ffôn a thrwy e-bost. Er mai dyma’n prif swyddogaeth, mae gennym lawer o gyfrifoldebau eraill yn ystod ein diwrnod gwaith sy’n cynnwys:
Cadw’r dderbynfa’n lân ac yn daclus
Sicrhau bod gan ein siop ddigon o stoc
Gwerthiannau siop gan ddefnyddio til
Derbyn rhoddion gan y cyhoedd (nwyddau siop, bwyd anifeiliaid yn ogystal â rhoddion ariannol)
Er bod y Ganolfan yn lle gwych i weithio a byddech yn ymuno â thîm cyfeillgar iawn, mae gwaith derbynfa’n eich rhoi ar y rheng flaen o ran ymdrin â phob math o bobl. Mae’n bosib, wrth weithio yn y dderbynfa, y byddwch yn wynebu cwsmeriaid heriol o bryd i’w gilydd, blacmel emosiynol, disgrifiadau graffig o greulondeb/dioddefaint anifeiliaid ac weithiau’n methu cynnig yr help yr hoffech chi. Mae’n hollbwysig ein bod bob amser yn ceisio bod yn llawn empathi ac yn ddigynnwrf ond yn bendant a cheisio helpu cystal ag y gallwn bob amser.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Cynorthwy-ydd Cathod Gwirfoddol
Sut gallwch ein helpu?
Mae gennym dîm o ddau aelod o staff sy’n gweithio yn y cathdy bob dydd. Mae lle i hyd at 72 o gathod ar y safle ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu holl anghenion yn cael eu diwallu yn gorfforol ac yn ymddygiadol. Ein nod yw ceisio gwneud yr anifeiliaid mor hapus a chynhyrchiol â phosib yn ystod eu hamser gyda ni.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Mae helpu’n tîm cathdy’n golygu bod yr holl dasgau hanfodol yn cael eu gorffen yn gynt sy’n golygu y gellir treulio amser ychwanegol gyda’r anifeiliaid. Mae ein staff cathdy’n gwneud amrywiaeth o weithgareddau a chynlluniau cyfoethogi gyda’r cathod i’w cadw wedi’u hysgogi’n gorfforol ac yn feddyliol a byddwn yn dechrau’r broses o ddatrys unrhyw broblemau ymddygiad sydd ganddynt cyn iddyn nhw fynd i gartref newydd. Trwy wirfoddoli yn y cathdy, bydd eich amser a’ch egni o fudd uniongyrchol i’n preswylwyr, byddwch yn ein helpu i’w cadw’n hapus ac yn fodlon wrth iddynt chwilio am gartrefi newydd.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd am wneud yr holl dasgau y mae angen eu gwneud. Rydym wedi darganfod bod hyn yn fwy gwerth chweil oherwydd byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â’r staff cathdy gan wneud yr holl dasgau maen nhw’n eu gwneud ac yn cymryd mwy o ran. Gan y byddwch chi’n gweithio’n agosach gyda’r tîm, mae llawer mwy o gyfle i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
Cynorthwyo staff wrth lanhau cytiau cathod yn drylwyr yn ddyddiol gan gynnwys blychau baw cathod
Dilyn cynlluniau dietegol i baratoi amrywiaeth o fwyd wedi’i bwyso drwy gydol y dydd
Didoli a glanhau dillad gwely
Rhyngweithio ag amrywiaeth o gathod wrth gydnabod ymddygiadau y mae angen eu monitro
Sicrhau bod y cyfarpar amddiffyn personol cywir yn cael ei ddefnyddio bob amser.
Gofynion Gwirfoddolwyr
• Hyder a thosturi tuag at amrywiaeth o gathod
• Safonau hylendid da yng nghartrefi’r anifeiliaid
• Y gallu i gwblhau tasgau gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
• Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
• Ymrwymiad i fod yn bresennol ar ddiwrnodau ac amseroedd a nodwyd gan ddechrau am 9am tan 1pm o leiaf
Sut gallaf gymryd rhan?
Gan fod y gangen yn gorfod talu am sefydlu a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd, rydym yn annog unrhyw un sy’n ystyried gwaith gwirfoddol i ystyried yn ofalus cyn gwneud cais. Cyn cyflwyno cais, mae angen i chi ystyried y canlynol:
Alla’ i ymdopi â llawer o blygu, ymestyn a cherdded heb anhawster?
Ydw i’n berson hyderus a rhadlon ond eto’n ddigynnwrf?
Oes gen i sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol?
Ydw i’n hapus i roi cynnig ar ddysgu am ymddygiad cathod ac i ddysgu’r sgiliau sy’n ofynnol i weithio gyda’r cathod?
Ydw i’n berson craff, yn gwrtais, yn amyneddgar ac yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm?
Os mai “nac ydw” yw’r ateb i unrhyw un o’r uchod, efallai nad hon yw’r rôl i chi.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Cerdded Cŵn yn Wirfoddol
Sut gallwch ein helpu?
Mae gennym dîm o dri i bedwar aelod o staff sy’n gweithio yn y cytiau bob dydd ar dri bloc gwahanol. Mae gennym hyd at 57 o gŵn ar unrhyw adeg ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu holl anghenion yn cael eu diwallu, yn gorfforol ac yn ymddygiadol. Ein nod hefyd yw gwneud yr anifeiliaid mor hapus a chynhyrchiol â phosib yn ystod eu hamser gyda ni.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Helpu ein tîm cytiau trwy gerdded a chymdeithasu â’r cŵn yn Llys Nini. Mae gennym safle gwych sy’n cynnwys 78 erw i gerdded y cŵn.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
Cerdded cŵn (o leiaf 15 munud ddwywaith y dydd) trwy goetiroedd a chaeau
Cyfnewid cŵn mewn libartau ymarfer corff
Cydnabod a rheoli ystod o ymddygiadau cŵn
Gofynion Gwirfoddolwyr
Hyder a thosturi tuag at amrywiaeth o gŵn
Y gallu corfforol i gerdded ar dir sy’n anwastad ac yn berchen ar ddillad/esgidiau ar gyfer pob tywydd
Y gallu i weithio’n annibynnol
Ymrwymiad i fod yn bresennol ar ddiwrnodau a nodwyd
Mae angen esgidiau cerdded/esgidiau glaw da oherwydd mae’r tir yn gallu bod yn eithaf mwdlyd
Sut gallaf gymryd rhan?
Gan fod sefydlu a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd â chost ariannol i’r Gangen, rydym yn annog unrhyw un sy’n ystyried gwaith gwirfoddol i ystyried yn ofalus cyn gwneud cais. Cyn cyflwyno cais, mae angen i chi ystyried y canlynol:
• Oes gen i symudedd da?
• Ydw i’n berson hyderus a rhadlon ond eto’n ddigynnwrf?
• Oes gen i sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol?
• Ydw i’n hapus i roi cynnig ar ddysgu am hyfforddi ac ymddygiad cŵn ac i ddysgu’r sgiliau sy’n ofynnol i weithio gyda’r cŵn?
• Ydw i’n berson craff, yn gwrtais, yn amyneddgar ac yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm?
Os mai “nac ydw” yw’r ateb i unrhyw un o’r uchod, efallai nad hon yw’r rôl i chi.
Does dim swyddi gwag gennym yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Ffurflen Gais ar gyfer Cymdeithasu â Chathod yn Wirfoddol
Sut gallwch ein helpu?
Mae gennym dîm o ddau aelod o staff sy’n gweithio yn y cathdy bob dydd. Mae lle i hyd at 72 o gathod ar y safle ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu holl anghenion yn cael eu diwallu yn gorfforol ac yn ymddygiadol. Ein nod yw ceisio gwneud yr anifeiliaid mor hapus a chynhyrchiol â phosib yn ystod eu hamser gyda ni.
Beth fyddai’n cael ei gynnwys yn eich rôl?
Helpu ein tîm cathdy trwy gymdeithasu â’r cathod yn y cathdy. Mae ein staff cathdy’n gwneud amrywiaeth o weithgareddau a chynlluniau cyfoethogi gyda’r cathod i’w cadw wedi’u hysgogi yn gorfforol ac yn feddyliol a byddwn yn dechrau’r broses o ddatrys unrhyw broblemau ymddygiad sydd ganddynt cyn iddyn nhw fynd i gartref newydd. Trwy wirfoddoli yn y cathdy, bydd eich amser a’ch egni o fudd uniongyrchol i’n preswylwyr, byddwch yn ein helpu i’w cadw’n hapus ac yn fodlon wrth iddynt chwilio am gartrefi newydd.
Tasgau Nodweddiadol
• Treulio 15 munud o leiaf gyda phob cath a chydnabod ymddygiadau y mae angen eu monitro ac adrodd amdanynt
• Sicrhau bod y cyfarpar amddiffyn personol cywir yn cael ei ddefnyddio bob amser
Gofynion Gwirfoddolwyr
• Hyder a thosturi tuag at amrywiaeth o gathod
• Safonau hylendid da yng nghartrefi’r anifeiliaid
• Y gallu i gwblhau tasgau gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
• Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
• Ymrwymiad i fod yn bresennol ar ddiwrnodau a nodwyd
Sut gallaf gymryd rhan?
Gan fod y gangen yn gorfod talu am sefydlu a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd, rydym yn annog unrhyw un sy’n ystyried gwaith gwirfoddol i ystyried yn ofalus cyn gwneud cais. Cyn cyflwyno cais, mae angen i chi ystyried y canlynol:
Alla’ i ymdopi â llawer o blygu, ymestyn a cherdded heb anhawster?
Ydw i’n berson hyderus a rhadlon ond eto’n ddigynnwrf?
Oes gen i sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol?
Ydw i’n hapus i roi cynnig ar ddysgu am ymddygiad cathod a dysgu’r sgiliau sy’n ofynnol i weithio gyda’r cathod?
Ydw i’n berson craff, cwrtais ac amyneddgar ac ydw i’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm?
Os mai “nac ydw” yw’r ateb i unrhyw un o’r uchod, efallai nad hon yw’r rôl i chi.