Noddi Hafan Ddiogel
Pan fyddant yn ein gofal rydym yn rhoi hafan ddiogel iddyn nhw – rydym yn sicrhau bod ein hanifeiliaid yn teimlo’u bod yn cael eu caru a’u bod yn ddiogel trwy ofalu am eu hanghenion corfforol yn ogystal â rhoi ymarfer corff iddynt yn rheolaidd a bod yn gwmni iddynt.
Beth yw Hafan Ddiogel?
Hafan Ddiogel yw ein cynllun rhoi misol lle gallwch noddi’r llety anifeiliaid a fydd yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u cam-drin neu wedi’u gadael. Gyda Hafan Ddiogel byddwch chi’n helpu llawer o anifeiliaid ac yn noddi bywydau bob anifail sy’n mynd trwy ein canolfan anifeiliaid bob blwyddyn.
Ar beth bydd fy nawdd yn cael ei wario?
Am gyn lleied â £1 yr wythnos, bydd eich nawdd yn mynd tuag at ofalu am yr anifeiliaid, eu hadsefydlu a’u triniaeth feddygol. Pan fyddant yn ein gofal rydym yn rhoi hafan ddiogel iddyn nhw – rydym yn sicrhau eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu caru a’u bod yn ddiogel trwy ofalu am eu hanghenion corfforol yn ogystal â rhoi ymarfer corff iddynt yn rheolaidd a bod yn gwmni iddynt.
Beth ydw i’n ei gael o’r cynllun?
Byddwn yn anfon sticer car a thystysgrif cefnogwr atoch sy’n nodi rhif llety’ch anifail fel y gallwch ymweld â’ch cwt noddedig, cwt cath neu gwt anifail bach. Byddwch hefyd yn derbyn ein Nini News rheolaidd trwy e-bost a bydd gennych gyfle i adael neges fach ar hysbysfwrdd ein ‘cefnogwyr’ yn ein derbynfa.
Sut gallaf ymuno â’r cynllun?
MAE’N HAWDD! Gallwch gofrestru ar-lein trwy gerdyn Credyd/Debyd neu Paypal.
Gallwch hefyd lenwi ffurflen yn y ganolfan i gofrestru drwy archeb sefydlog neu gallwn anfon ffurflen atoch trwy e-bost – e-bostiwch: fundraising@rspca-llysnini.org.uk

Nawdd Partneriaeth Gorfforaethol
Dewch yn Bartner Corfforaethol

P’un a ydych chi’n gorfforaeth fawr neu’n fusnes bach lleol byddem wrth ein bodd yn eich cael chi’n bartner i ni fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i achub anifeiliaid sydd mewn angen dybryd. Gallwn deilwra’r bartneriaeth er mwyn diwallu’ch anghenion.
Pam Llys Nini?
Mae Llys Nini’n achub ac yn helpu miloedd o anifeiliaid bob blwyddyn. Fel elusen sydd wedi’i chofrestru ar wahân ac wedi’i hunanariannu, rydym yn dibynnu ar roddion lleol, felly gallwch fod yn sicr eich bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Gallwn gynnig diwrnodau gwirfoddoli unigryw neu ddiwrnodau adeiladu tîm i’ch staff a fydd, fel rhan o’ch polisi cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, yn cynyddu ymrwymiad staff ac mae pob un ohonom yn gwybod bod gweithlu hapus yn weithlu mwy cynhyrchiol.
Gall cysylltiad â Llys Nini godi proffil eich cwmni mewn sawl ffordd – yn y wasg, gyda’r 30,000 o ddilynwyr a mwy sydd gennym ar gyfryngau cymdeithasol, 25,000 o ymwelwyr blynyddol â Llys Nini a thrwy ein cylchlythyrau.
Ffyrdd o helpu:
Rhoi drwy’r gyflogres: Rhoi drwy’r gyflogres yw’r ffordd hawsaf a mwyaf effeithlon i’ch sefydliad gefnogi Llys Nini. Mae’n caniatáu i weithwyr roi bob mis yn awtomatig yn y ffordd fwyaf effeithlon o ran treth.
Ydy’ch sefydliad eisoes wedi cofrestru gyda’r cynllun rhoi drwy’r gyflogres? Os nad ydyw, mae’n hawdd gwneud hynny drwy fynd i’r wefan: www.charitablegiving.co.uk neu os ydych chi eisoes wedi cofrestru yna hyrwyddwch Lys Nini i’ch staff, fel eu bod nhw’n ein dewis ni fel eu helusen o’u dewis. Mae Debbie Davies, sy’n codi arian i ni yn Llys Nini, ar gael ac yn hapus i helpu, ffoniwch 01792 892293 neu e-bostiwch Debbie@rspca-llysnini.org.uk
Dewiswch ni yn Elusen y Flwyddyn: Gall ein dewis ni fel eich elusen ennyn ymroddiad eich gweithlu mewn ffordd ddifyr ac ystyrlon. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau wedi’u teilwra gan gynnwys ymweliadau safle, digwyddiadau wedi’u trefnu’n benodol, a chymryd rhan yn eich Digwyddiadau Iechyd a Lles.

Gweithwyr yn Codi Arian: Anogwch eich gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian i ni. Maent yn llawer o hwyl, yn sefyllfaoedd da ar gyfer adeiladu tîm a gallant helpu cymhelliant. Bydd Debbie yn gweithio gyda chi i hyrwyddo ac ennyn diddordeb eich staff gyda syniadau a digwyddiadau unigryw.
Gwirfoddolwch gyda ni: Gallwn gynnig y diwrnodau gwirfoddoli mwyaf unigryw i’ch staff. Mae gennym 78 erw o dir ac rydym yn gweithio’n galed i wella’r amgylchedd a diogelu’r fioamrywiaeth. Gallwn gynnig diwrnodau gwirfoddoli yn gweithio ar y safle, a/neu gerdded cŵn a chymdeithasu â chathod. Mae gennym babell fawr 15m x 9m ar y safle y gellir ei defnyddio ar gyfer sesiynau hyfforddi neu adeiladu tîm.
I drafod unrhyw ran o’r wybodaeth uchod ffoniwch Debbie yn yr adran codi arian ar 01792 892293 neu e-bostiwch Debbie@rspca-llysnini.org.uk
